PORTHLADDOEDD, DDOE A HEDDIW

Croeso i Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw. Bydd y wefan hon yn eich helpu i archwilio diwylliant, treftadaeth a chreadigrwydd cyfoethog pum porthladd o amgylch Môr Iwerddon: Harbwr Rosslare, Doc Penfro, Abergwaun, Porthladd Dulyn a Chaergybi.

Porthladd Dulyn
Abergwaun
Caergybi
Doc Penfro
Harbwr Rosslare

Beth wnewch chi ei ddarganfod?

Yma gallwch ddarganfod ffilmiau, straeon, gweithiau celf a phodlediadau sy’n dod â’r pum tref porthladd hyn yn fyw fel lleoedd i oedi ac archwilio.

Darganfod

Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw

CHWILIO YN ÔL DIDDORDEB

PORTHLADDOEDD

STRAEON

Filmiau Alt

FFILMIAU

PODLEDIADAU

CANLLAW TWRISTIAETH

CANLLAW ATHRAWON

PORTHLADDOEDD CREADIGOL

Lawrlwytho’r Ap

Defnyddiwch ap Port Places i gyfoethogi eich taith dros y môr rhwng Cymru ac Iwerddon. Gallwch lawrlwytho ap Port Places, naill ai ymlaen llaw neu wrth ymweld â’r porthladdoedd.

Dysgwch mwy

Bydd Port Places yn eich arwain i ddarganfod y straeon gorau sydd ar gael gan y cyrchfannau hardd hyn ar y glannau.

Rydym yn gwahodd busnesau twristiaeth ac addysgwyr i ddefnyddio’r wefan hon, gan gynnwys ein straeon, ein ffilmiau, ein gweithiau creadigol a’n podlediadau, yn eu ffordd eu hunain i ddatblygu deunydd marchnata a chynlluniau gwersi a theithiau newydd. Rydym wedi creu deunyddiau pwrpasol i fusnesau twristiaeth ac athrawon i’ch ysbrydoli i ddefnyddio Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw. Mae’r prosiect hefyd wedi archifo’i holl waith mewn man diogel lle bydd ar gael am flynyddoedd lawer i ddod.

Roedd Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw yn waith pedair blynedd a ariannwyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru. Roedd yn brosiect ar y cyd rhwng Coleg Prifysgol Corc, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chyngor Sir Wexford. Gallwch ddarllen mwy am y prosiect yma. Darllen mwy am y prosiect yma