EXPLORE BY PORT

Five Ports on the Irish Sea

 

Mae Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw yn dathlu pum porthladd gwahanol iawn a’u diwylliannau cyfoethog o boptu i Fôr Iwerddon: Porthladd Dulyn, Harbwr Rosslare, Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro. Darganfyddwch a chrwydrwch y pum lle unigryw hyn trwy straeon, ffilmiau a gweithiau creadigol.

Ble ewch chi?

Dulyn

Profwch ferw atyniadol Porthladd Dulyn, lle mae canrifoedd o hanes yn dod wyneb yn wyneb â swyn y byd morwrol modern. Canfod nodau tir eiconig, drachtio o’r awyrgylch bywiog, ac ymgolli yn nhapestri diwylliannol cyfoethog prifddinas Iwerddon.

Abergwaun

Darganfod Abergwaun a’i swyn, lle mae hanes a harddwch naturiol yn cydgyfarfod. Cyfle i weld tirluniau i fynd â’ch gwynt, crwydro strydoedd bach hardd ac ymdaflu i ddiwylliant Cymru. Profwch hud Abergwaun a chreu atgofion bythgofiadwy yn y dref borthladd brydferth hon.

CAERGYBI

Darganfod treftadaeth forwrol a harddwch hudolus Caergybi. Cewch wahoddiad i ddysgu mwy am hanes difyr y dref borthladd fywiog ac i weld drosoch eich hun dirweddau godidog Môn.

Doc Penfro

Rhyfeddodau morwrol Doc Penfro. Ymdaflu i straeon ei gorffennol, ymlwybro hyd ei glannau a chofleidio holl swyn y perl o dref. Canfod y cyfuniad perffaith o hanes ac o harddwch yn Noc Penfro.

Harbwr Ros Láir.

Cofleidio hud y glannau yn Harbwr Ros Láir. Ymgolli yng nghyfoeth yr hanes, gwerthfawrogi’r tirweddau syfrdanol, a chofleidio croeso cynnes y Gwyddelod. Disgwyliwch antur fythgofiadwy yn Harbwr Ros Láir.

For privacy reasons YouTube needs your permission to be loaded. For more details, please see our Privacy Policy.
I Accept

Mae gan y porthladdoedd hyn eu straeon a’u hunaniaeth unigryw eu hunain, ond maen nhw i gyd tu hwnt i hynny yn rhan o ranbarth Môr Iwerddon, ac yn rhan o’r un stori ddiddorol. Gwaetha’r modd, dydi’r cysylltiadau hyn ddim wedi bod yn amlwg bob amser. Maen nhw wedi eu cadw ar wahân gan ffiniau gwledydd, ffiniau rheoleiddiol a’r ffiniau hefyd o ran chwedlau, sydd wedi bodoli ers canrifoedd. Ymunwch â ni ar y daith i chwalu’r ffiniau hyn a phlymio i fyd rhyng-gysylltiedig basn Môr Iwerddon Byddwch yn barod am antur heb ei thebyg!