Rosslare

Harbwr

Hanes

Mae Harbwr Rosslare, neu Cuan Ros Láir mewn Gwyddeleg, sy’n golygu ‘harbwr canol y penrhyn’, yn gorwedd yng nghornel dde-ddwyreiniol Iwerddon: lle gwych ar gyfer cysylltiadau morwrol â Chymru ac Ewrop.

Cafodd ei argymell fel lleoliad ar gyfer porthladd newydd gan y peiriannydd Fictoriaidd Isambard Kingdom Brunel. Roedd y prif borthladd yn Wexford yn mynd yn anodd i’w ddefnyddio gan fod y tywod symudol, lle mae afon Slaney yn cwrdd â’r môr, yn beryglus i’w lywio. Cymerodd Harbwr Rosslare beth amser i’w gwblhau a chafodd ei agor ym 1906.

Bu’r cynnydd ym mhoblogrwydd ceir a thryciau yn y 1940au a’r 50au yn hwb i rôl Harbwr Rosslare fel cysylltiad hanfodol mewn trafnidiaeth ryngwladol yn ôl ac ymlaen i Iwerddon. Ym 1968, daeth y porthladd yn borth newydd rhwng Iwerddon ac Ewrop pan ddechreuodd fferis hwylio i Le Havre. Rosslare Europort bellach yw’r ail borthladd prysuraf yng Ngweriniaeth Iwerddon, gyda llwybrau newydd yn agor i amryw o gyrchfannau yn Ewrop.

Defnyddiwch ap Port Places i archwilio Harbwr Ros Láir a threftadaeth Normanaidd yr ardal.

For privacy reasons YouTube needs your permission to be loaded. For more details, please see our Privacy Policy.
I Accept

Beth i’w weld a’i wneud

Y Traeth

Mae’r traeth wrth ymyl y porthladd ymysg y prydferthaf yn Wexford (ac mae yna gryn gystadlu am yr anrhydedd honno). Mae’r tywod euraidd yn hwylus i’r sawl sy’n defnyddio cadair olwynion neu sydd â phroblemau symudedd, gan fod llwybr cerdded a man gwylio ar gael trwy gydol y flwyddyn

O fis Mehefin ymlaen, mae yna badiau sy’n cyrraedd hyd at y traeth ger y dŵr. Gan ddibynnu ar y llanw, weithiau gall fod ychydig ymhellach cyn cyrraedd ymyl y dŵr.

Mae yna faes chwarae ym mhen pellaf y pentref sy’n cynnig golygfa odidog o’r fferis a’r llongau nwyddau sy’n dod i mewn i’r porthladd. Dyma gyfle gwych i’r plant losgi ynni cyn neu ar ôl cael eu cyfyngu ar fwrdd y fferi.

Mae’r Secret Garden, a sefydlwyd gan Seamus Kirwan yn y 1980au, yn llwybr braf drwy ardd gymunedol a blannwyd er lles natur a chynaliadwyedd.

Yr
Ardd
Gudd

 

 

 

Y
Byd Mawr
Tu Allan

 

 

 

Mae’r Ganolfan Gweithgareddau Awyr Agored Ryngwladol yn cynnig maes gwersylla hardd ac antur i bob oedran. Ynghyd â’r Ganolfan, mae yna weithgareddau busnes eraill yn yr ardal, gan gynnwys marchogaeth yn Stablau Hazelwood, ynghyd â theithiau cerdded a golff.

Lle
i
fwyta

 

 

 

Gallwch ymweld â’r Garden Café am damaid ysgafn neu bryd llawn gan Vivien a’r tîm fydd yn eich cynnal ar y siwrne Yn siop jips Tusker cewch sglodion hallt, llawn finegr, i’w mwynhau ar y traeth.

I’r sawl sy’n mwynhau mynd ar droed neu ar gefn beic, mae’r Ffordd Normanaidd a Llwybr Beicio Ewropeaidd Velo Un yn agos iawn.

Darganfyddwch porthladdoedd eraill

Porthladd Dulyn
Abergwaun
Caergybi
Doc Penfro