Fel rhan o Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw, comisiynwyd awduron ac artistiaid gweledol i weithio gyda chymunedau’r porthladdoedd a staff y prosiect, ac archwilio straeon a themâu sy’n berthnasol i hanes a diwylliant y pum tref borthladd a’r siwrneiau ar draws Môr Iwerddon.
Julie Merriman, ‘Departure’ , o Gyfnod Preswyl Pier Caerliwelydd (Carlisle), 2006–10
Bu nifer o’r ymarferwyr creadigol yn cydweithio gan greu cysylltiadau newydd ar draws Môr Iwerddon. Lluniwyd ystod eang o ddeunyddiau a oedd yn cynnwys barddoniaeth a llên teithio, darluniau, adrodd straeon, y gair llafar, animeiddio, ffilm, ffotograffiaeth, a gweithiau celf graffig a phlastig. Bydd rhai o’r rhain yn cael eu harddangos yn barhaol yn yr ardal leol, a gellir eu darganfod drwy ddefnyddio’r dolenni isod. Mae atgynyrchiadau neu fersiynau o’r gweithiau hefyd wedi’u cynnwys mewn amryw o gyhoeddiadau gan y prosiect, ac ar y wefan hon.
Cliciwch ar enwau’r artistiaid isod i weld beth maen nhw wedi’i greu.