DARGANFOD
AP PORT PLACES

Agorwch Gil y Drws ar Fyd o Straeon am y Porthladdoedd a’u Cymunedau

Dewch i edrych ar ddyfnder hanes a threftadaeth pum porthladd fferi gweithredol o amgylch Môr Iwerddon: Porthladd Dulyn, Harbwr Rosslare, Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro. Mae’r ap hwn yn caniatáu ichi lawrlwytho nifer o brofiadau wedi’u curadu, bob un yn cynnig gweledigaeth o fywyd, creadigrwydd, hanes a threftadaeth y porthladdoedd.
Daw’r deunydd yn yr ap hwn gan aelodau cymunedau, artistiaid ac ymchwilwyr yn y porthladdoedd o ystod eang o gefndiroedd sy’n eich galluogi i archwilio’r porthladdoedd mewn ffordd hollol unigryw.

Mae’r ap ar gael i’w lawrlwytho am ddim a dim ond 17.5 MB o le y mae’n ei gymryd. Er mwyn i’r ap weithio ar ei orau wrth ichi grwydro, gofalwch fod eich lleoliad wedi’i osod ar ‘Always On’ wrth ddefnyddio’r ap.

Pori drwy wybodaeth sydd wedi ei churadu a straeon gwych am gymunedau’r porthladdoedd.

Defnyddio mapiau rhyngweithiol i ganfod trysorau cudd.

Ymgolli mewn profiadau diwylliannol a chynnwys cyffrous mewn gwahanol gyfryngau.

Mynnwch gipolwg bach ar ap Port Places a gweld sut y gall drawsnewid eich profiadau chi o’r porthladdoedd . Gwyliwch y fideo a chychwyn ar daith na fu ei thebyg!

For privacy reasons YouTube needs your permission to be loaded. For more details, please see our Privacy Policy.
I Accept

Lawrlwytho’r Ap

Lawrlwythwch ap Port Places heddiw a chodi’r clawr ar fyd o straeon anhygoel am y cymunedau porthladd!

Archwilio nodweddion yr ap, defnyddio mapiau rhyngweithiol, a threiddio i galon diwylliant y porthladdoedd! Ar gael ar Google Play a’r App Store

Rhannwch ap Port Places gyda chwsmeriaid, ymwelwyr, a rhai sy’n rhannu’r diddordeb.
Rhowch gyfle iddyn nhw godi’r clawr ar straeon newydd a’r trysorau sy’n gwneud pob porthladd yn unigryw.

Dod yn Gyfrannwr

Cyfrannu eich straeon, argymhellion a’ch gweledigaeth eich hun i ap Port Places.

Rhannu eich gwybodaeth a dod yn rhan o’r gymuned fywiog sy’n dathlu treftadaeth gyfoethog y porthladdoedd. Ymunwch â ni i siapio’r profiad o Port Places