CANLLAW YSGOLION

AC ATHRAWON

Darganfod cyfoeth o gynnwys
ar gyfer archwilio fel dosbarth

Edrychwch ar y straeon treftadaeth ddiwylliannol sydd ar wefan Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw mewn gwahanol ffyrdd: yn yr ystafell ddosbarth ac allan ar deithiau maes ysgol … Dyma rai awgrymiadau!

Dysgu drwy ymholi

Defnyddiwch y straeon ar Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw yn fan cychwyn ar gyfer prosiect dysgu ar-lein mewn timau.

  1. Rhannwch y dosbarth yn dimau a rhowch stori i bob tîm ei darllen.
  2. Nesaf, anogwch y timau i ddarganfod mwy drwy ddilyn y rhestr o ‘Ffynonellau Perthynol’ ar waelod pob tudalen stori.
  3. Gall pob tîm adrodd ar eu canfyddiadau mewn gwahanol fformatau, megis cyflwyniad llafar byr, cyflwyniad digidol neu efallai rhywbeth creadigol. Gallai hyn fod yn gerdd neu stori wedi’i seilio ar yr hyn maen nhw wedi’i ddarllen.
  4. Gallwch ddefnyddio’r tudalen ‘Chwilio fesul Thema’ i ddewis set o straeon ar thema benodol, neu ‘Chwilio fesul Porthladd’ i ddod o hyd i gynnwys am bob un o’r pum porthladd.

Mae’r ap Port Places ar gael i’w lawrlwytho am ddim o’r App Store neu Google Play. Mae yna lawer o brofiadau i’w lawrlwytho, sy’n golygu nad oes angen ichi fod ar-lein pan fyddwch chi’n defnyddio’r ap. Gallwch hyd yn oed ddefnyddio tabled tra byddwch chi allan ar daith. Gall yr ap weithredu fel eich canllaw o amgylch unrhyw un o borthladdoedd fferi Môr Iwerddon a fu’n rhan o brosiect Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw – Harbwr Rosslare, Abergwaun, Caergybi, Porthladd Dulyn a Doc Penfro.

Gall yr ap ddefnyddio’ch geo-leoliad i rannu cynnwys, neu gallwch ddefnyddio’r marcwyr ar y map i glicio ar straeon treftadaeth a all gael eu rhannu gyda’ch grŵp ar y daith. Mwynhewch grwydro! Pan fyddwch yn ôl yn yr ystafell ddosbarth, beth am wneud y gweithgaredd dysgu drwy ymholiad a ddisgrifir uchod gan ddefnyddio straeon Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw?

Defnyddiwch ap Port Places i fynd â’r ysgol am dro o amgylch un o’r porthladdoedd

For privacy reasons YouTube needs your permission to be loaded. For more details, please see our Privacy Policy.
I Accept

Ar ôl ichi ddod i nabod ap Port Places y cam nesaf yw ychwanegu eich profiad chi’ch hun! Gallwch ymchwilio ac ysgrifennu eich teithiau eich hun i’w cynnwys ar yr ap – gall y rhain ymwneud ag unrhyw agwedd ar dreftadaeth gymunedol a diwylliannol sy’n gysylltiedig â’r porthladdoedd. Mae’r gweithgaredd hwn yn gweithio orau i ysgolion sydd wedi’u lleoli yn y porthladdoedd neu’n agos atyn nhw, ond gydag ychydig o ymchwil ac ymdrech, gall unrhyw ysgol gyfrannu taith.
Dyma ganllaw fideo ar sut i ychwanegu cynnwys at ap Port Places.

Dewch â hanes yn fyw yn yr ystafell ddosbarth
gydag amrywiaeth o gynnwys difyr

Discover
Port Stories

Watch
A Film

Explore
Creative Connections

Visit
A Port

Try Out
The App

Listen To
A Podcast

Rhannwch y wybodaeth,
anogwch nhw i ymgysylltu!

Rhowch anogaeth i athrawon eraill ymuno! Rhannwch yr adnodd gwerthfawr hwn gyda’ch cydweithwyr a dewch at eich gilydd i greu profiad dysgu effeithiol i fyfyrwyr.

Gyda’n gilydd, gallwn annog gwell a dyfnach dealltwriaeth o hanes ac addysg treftadaeth.

Enhance Your Lessons with
Downloadable Resources

  • Worksheet 1

    Lorem Ipsum is simply dummy text of the printing and typesetting industry. Lorem Ipsum has [...]

  • Worksheet 2

    Lorem Ipsum is simply dummy text of the printing and typesetting industry. Lorem Ipsum has [...]

  • Worksheet 3

    Lorem Ipsum is simply dummy text of the printing and typesetting industry. Lorem Ipsum has [...]

  • Worksheet 4

    Lorem Ipsum is simply dummy text of the printing and typesetting industry. Lorem Ipsum has [...]