PORTHLADDOEDD,
DDOE A HEDDIW

Archwilio Hanes,
Cofnodi Treftadaeth

Bu Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw yn archwilio treftadaeth a chreadigrwydd pum porthladd ar Fôr Iwerddon, sef Porth Dulyn, Abergwaun, Caergybi, Doc Penfro a Harbwr Rosslare. Dros bedair blynedd, creodd Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw ystod o dreftadaeth ddiwylliannol ac allbynnau creadigol

Mae’r deunyddiau newydd hyn yn grymuso’r pum cymuned arfordirol i adrodd eu straeon unigryw ac yn caniatáu i ymwelwyr ddarganfod y dreftadaeth gyfoethog sydd gan y porthladdoedd i’w chynnig.

Nawdd a Llwyddiant

Ymunwch â ni wrth inni ddathlu llwyddiant y prosiect trwy darganfod straeon gwych a gofalu am ein treftadaeth ar y cyd Profwch ychydig o naws y prosiect yn yr oriel luniau.

Partneriaid y Prosiect

Cynhaliwyd y prosiect gan Goleg Prifysgol Corc, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chyngor Sir Wexford. Fe’i hariannwyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru.

Cafodd y prosiect ei werthuso’n allanol gan Wavehill, a gallwch ddarllen eu hadroddiad gwerthuso terfynol yma.

Gwybodaeth am y Prosiect

Mae tîm Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw wedi gweithio’n galed i sicrhau gwaddol hirdymor y prosiect. Arddelwyd arferion gorau’r Dyniaethau Digidol i archifo nid yn unig ein hallbynnau academaidd, ond hefyd agweddau technegol a gweithredol y prosiect. Rydym wedi creu’r wefan hon i gyfeirio’r defnyddwyr tuag at leoliad yr holl ddeunyddiau hyn.

Mae allbynnau creadigol, ffilmiau, ffotograffau a straeon treftadaeth i’w gweld ar Storfa Ddigidol Iwerddon, Casgliad y Werin ac Europeana.

Mae cynlluniau’r prosiect, ynghyd ag adnoddau swyddogaethol eraill a grëwyd gan y prosiect wedi’u lleoli ar Zenodo.
Mae ap Port Places yn cael ei redeg gan Safarnama, sef llwyfan apiau agored a grëwyd gan Brifysgol Caerhirfryn.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu data hanesyddol am yr hir dymor.

Darganfod ysbrydoliaeth

Discover
Port Stories

Watch
A Film

Explore
Creative Connections

Visit
A Port

Try Out
The App

Listen To
A Podcast